Galw am sicrwydd ffordd osgoi yng Ngwynedd wedi tagfeydd a chiwiau

Roedd car ambiwlans wedi cael trafferth gwneud ei ffordd trwy'r traffig yn y pentref yn gynharach yn yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am sicrwydd ariannol gan Lywodraeth Cymru i godi ffordd osgoi ger pentref Llanbedr yng Ngwynedd yn sgil trafferthion parhaus o dagfeydd a chiwiau hir.
Am gyfnod yr wythnos hon bu'n rhaid i drigolion - gan gynnwys dau o fechgyn yn eu harddegau - sefyll yng nghanol y pentref yn dargyfeirio cerbydau oherwydd yr oedi.
Er i gynllun i godi ffordd osgoi newydd gael ei ganslo gan Lywodraeth Cymru yn 2021, mae 'na addewid o ffordd liniaru lai 40mya, gyda'r gwaith o'i datblygu ar y gweill.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod yr her ac yn gweithio gyda'r gymuned leol.
Ffordd osgoi ar y gweill, ond pryd?
Ers y 1960au mae 'na alwadau am ffordd osgoi yn Llanbedr, wrth i nifer y cerbydau yn y pentref chwyddo deirgwaith yn fwy yn yr haf o'i gymharu â'r gaeaf, oherwydd y diwydiant ymwelwyr.
Yn 2021 fe gafodd y cynllun am ffordd osgoi 1.4 cilometr ar gost o £14m ei ganslo gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw benderfynu peidio ag adeiladu rhagor o ffyrdd.
Ond yn 2023 daeth tro pedol, gyda'r llywodraeth bryd hynny'n dweud eu bod yn gweld yr angen am ffordd liniaru lai o faint, gyda chyfyngiad cyflymder 40mya.
Mae gwaith ar y gweill bellach, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, i asesu opsiynau ar gyfer ffordd osgoi newydd i ysgwyddo baich y traffig lleol.
Mae archwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai ffordd liniaru, gyda gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithiau llesol, gostio tua £45m.

Dywedodd Ceri Roberts fod ciwiau o 40-50 munud er mwyn croesi'r bont ynghanol Llanbedr yr wythnos hon
Tra bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, mae'r tywydd braf a chyfnod y gwyliau wedi dwysáu'r sefyllfa'r wythnos hon.
Mae Ceri Roberts yn byw yng nghanol y pentref, ond yn dweud nad yw hi wedi cerdded ar hyd y ffordd fawr ers dwy flynedd oherwydd pryderon diogelwch.
"O'dd hi'n hectic yma [yr wythnos hon] - ddaru fi avoidio gyrru drwy'r pentref oherwydd oedd 'na rhyw 40-50 minute wait yn trio dod dros y bont yma.
"Mae o'n creu lot o bryder i mi efo'r emergency services.
"Mae gen i blant ifanc. Dwi'n meddwl pe bai rhywbeth yn digwydd a fasa ambiwlans [methu] ein cyrraedd ni, ac felly mae'n amser rili dychrynllyd."

Mae'r cynghorydd Gwynfor Owen yn cydnabod fod gosod amserlen ar gyfer y ffordd osgoi "braidd yn anodd"
Yn ôl y cynghorydd lleol Gwynfor Owen, mae angen atebion i'r gymuned leol.
"Dwi'n dal i alw am ffordd liniaru 40mya sydd yn mynd i fod o gymorth i'r ardal ac yn gymorth ym mhob ffordd o ran diogelwch, o ran llygredd a hefyd o ran yr economi," meddai.
"Sicrwydd o arian 'da ni eisiau gyntaf - hyd yn oed os ydi o'n digwydd mewn blwyddyn neu bum mlynedd.
"Sicrwydd o arian 'da ni eisiau a sicrwydd fod y cynllun yn mynd i gymryd lle, ond o ran amserlen, ella fod hynny braidd yn anodd ar y funud."

Fe wnaeth Idris a Theo sefyll ar y bont yn cyfeirio'r traffig yr wythnos hon
Yn gynharach yr wythnos hon fe benderfynodd dau o fechgyn lleol yn eu harddegau sefyll ar y bont a chyfeirio traffig i geisio helpu'r sefyllfa.
Yn ôl Idris, 12, a Theo, 13, roedden nhw'n gwneud eu gorau i ddatrys y sefyllfa.
"Oeddan ni wedi diflasu a roedden ni am wneud o am hwyl, a doeddan ni ddim yn meddwl bod pobl am wrando, ond 'naeth pawb wrando ac mi 'naeth o helpu'r traffig," meddai Theo.
Yn ôl Idris, mae'r tagfeydd yn "stressful i bawb, ac os mae'r emergency services methu dod mewn - mae 'na broblem fawr".
Ychwanegodd Grŵp Ymgyrchu Ffordd Osgoi Llanbedr fod yna angen amlwg am ddatrysiad ar frys wedi blynyddoedd o ddisgwyl am weithredu.

Mae'r tywydd braf a chyfnod y gwyliau wedi dwysáu'r sefyllfa dros y dyddiau diwethaf
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "rheoli traffig mewn ardaloedd poblogaidd arfordirol a gwledig yn ystod cyfnodau brig yn her wirioneddol".
"Rydym yn cymryd pryderon cymunedau lleol o ddifri'," meddai llefarydd.
"Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a'r gymuned leol i archwilio ffyrdd o wella rheoli traffig yn Llanbedr.
"Bydd cyfleoedd ymgysylltu i bartneriaid a'r cyhoedd wrth i opsiynau gael eu datblygu."
Ffordd osgoi 'cyflymder isel' i Lanbedr wedi'r cyfan
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
Trigolion yn protestio dros ffordd osgoi Llanbedr
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022
Dim ffordd osgoi i bentref Llanbedr yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi sicrhau £400,000 i barhau gwaith datblygol yn ystod 2026/27, a hynny'n cynnwys "gwaith technegol paratoadol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffordd cyflymder isel ymhellach ynghyd ag elfennau eraill i wella'r cysylltiadau cerdded a beicio i'r pentref".
"Mae'r prosiect wedi'i gynnwys fel blaenoriaeth uchel yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ond bydd ei wireddu'n ddibynnol ar sicrhau cyllid pellach ar gyfer ei adeiladu.
"Yn y cyfamser, mae rhai mesurau eisoes wedi'u gweithredu, gan gynnwys cynyddu amlder gwasanaethau bysiau a gosod llochesi bysiau newydd yn y pentref.
"Mae caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun ffordd hefyd wedi'i warchod.
"Ar hyn o bryd, nid oes amserlen pendant wedi ei gytuno ar gyfer adeiladu ffordd newydd.
"Fe fydd hyn yn ddibynnol ar nifer o ffactorau sydd eto i'w cadarnhau gan gynnwys sicrhau ffynhonnell gyllid ar gyfer y cynllun sylweddol yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.