Cyhoeddi carfan Cymru i orffen grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd Merched

Rhian Wilkinson ydy rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Rhian Wilkinson, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer y ddwy gêm olaf o'r grŵp rhagbrofol at Gwpan y Byd 2027.
Gobaith Wilkinson fydd y gall ei thîm orffen chwarae'r gemau ar nodyn cadarnhaol, wrth iddyn nhw wynebu Montenegro a Czechia.
Mae Laura Hughes yn dychwelyd i'r garfan yn dilyn anaf ac mae Olivia Clark, Ceri Holland, Lois Joel, Scarlett Hill ac Elena Cole wedi cael eu galw hefyd.
Yn sgil anaf, dydi Hayley Ladd ddim yn bresenol.
Bydd Cymru yn wynebu Montenegro i ffwrdd ar ddydd Gwener, 5 Mehefin, cyn croesawu Czechia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth, 9 Mehefin.

Nid ydy Hayley Ladd yn y garfan
Bellach yn ail yng ngrŵp B1 ar wahaniaeth goliau, mae Cymru wedi cael chwe phwynt yn ystod y cyfnod rhyngwladol diwethaf gan guro Albania ddwywaith.
Maent wedi sicrhau lle yn y gemau ail gyfle, ond mae Cymru yn brwydro am y safle uchaf yn erbyn Czechia.
Bydd rownd un a dau o'r gemau ail gyfle yn cael eu tynnu o het ar 18 Mehefin.
Y garfan
Olivia Clark (Leicester City), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Poppy Soper (Rugby Borough), Hannah Cain (Leicester City), Elena Cole (AFC Bournemouth), Mayzee Davies (Manchester City), Charlie Estcourt (Portsmouth), Gemma Evans (dim clwb), Mared Griffiths (Manchester United), Scarlett Hill (Manchester United), Ceri Holland (Lerpwl), Elise Hughes (Crystal Palace), Laura Hughes (Melbourne City), Sophie Ingle (Bristol City), Angharad James (Seattle Reign), Lois Joel (Newcastle United), Carrie Jones (IFK Norrköping), Esther Morgan (Bristol City), Ffion Morgan (West Ham United), Phoebie Poole (Plymouth Argyle), Ella Powell (Bristol City), Rhiannon Roberts (Sunderland), Mia Ross (Charlton Athletic), Rachel Rowe (Nottingham Forest), Tianna Teisar (dim clwb), Lily Woodham (Lerpwl).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd22 Ebrill

- Cyhoeddwyd18 Ebrill
