Cyn-fyfyriwr yn rhybuddio pobl ifanc am sepsis wedi profiad trawmatig

Elle BlackFfynhonnell y llun, Elle Black
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elle Black yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd pan ddatblygodd sepsis

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn annog pobl ifanc i fod yn ymwybodol o symptomau sepsis ar ôl iddi feddwl mai sgil-effaith noson allan oedd achos ei dolur gwddf a symptomau tebyg i'r ffliw.

Datblygodd Elle Black sepsis, sef adwaith difrifol i haint allai beryglu bywyd, ar ôl iddi ddatblygu quinsy, neu ddolur yn y geg, o ganlyniad i tonsilitis yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

Mae Elle, sydd wedi graddio eleni mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant, yn dweud bod meddygon wedi dweud wrthi y gallai pethau fod wedi bod yn "eithaf gwahanol" pe bai wedi aros diwrnod arall cyn mynd i'r ysbyty.

Mae elusen Sepsis Research yn dweud ei bod yn bwysig peidio â diystyru symptomau sy'n ddifrifol, yn gwaethygu neu'n teimlo'n anarferol i'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl fel arfer.

'Clychau larwm yn canu'

Roedd Elle, sy'n 21 oed, wedi bod allan gyda'i ffrindiau yn mwynhau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad cyn iddi ddechrau teimlo'n sâl ym mis Chwefror 2024.

"Es i adref yn oriau mân y bore a dechreuodd cefn fy ngwddf frifo, oedd yn od gan nad oedd gen i unrhyw symptomau eraill eto," meddai.

"Cymerais ibuprofen, wnes i ddim meddwl llawer ohono, ac es i gysgu, ond pan ddeffrais y diwrnod wedyn roeddwn i'n hollol flinedig, heb egni ac roedd gen i dymheredd uchel iawn."

Aeth am frecwast gyda'i rhieni, ond dywedodd fod "clychau larwm yn canu" oherwydd bod ei thonsiliau wedi chwyddo a doedd hi ddim yn gallu bwyta.

Trefnodd apwyntiad gyda meddyg teulu preifat yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, a chafodd ddiagnosis o laryngitis, a chafodd wrthfiotigau.

"Roeddwn i mor gysglyd, mor ddryslyd," meddai.

Elle yn ysbytyFfynhonnell y llun, LLun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gallai Elle fod wedi cael profiad gwahanol iawn

Dywedodd nad oedd hi'n cofio llawer am y diwrnod canlynol, ond ei bod wedi cael gwybod ei bod wedi ffonio ei mam a dweud "alla i ddim teimlo fy nghoesau".

"Cyrhaeddais yr ysbyty a chefais fy asesu o fewn 15 munud, roedd popeth yn anhygoel o gyflym," meddai.

Datblygodd Elle quinsy, sef cymhlethdod o tonsilitis lle mae crawniad yn ffurfio rhwng y tonsiliau a wal y gwddf, a arweiniodd at sepsis.

Treuliodd ddau ddiwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn derbyn gwrthfiotigau, cyn "gwella'n llwyr".

Dywedodd Elle ei bod yn credu bod cyrraedd yr ysbyty'n gyflym, dweud wrth staff ei bod yn credu bod ganddi sepsis a'r ymateb meddygol cyflym wedi helpu.

"Dywedodd y meddygon, pe bawn i wedi gadael pethau ddiwrnod arall, y gallai fod wedi bod yn eithaf gwahanol.

"Dydych chi ddim yn clywed llawer am sepsis yn y cyd-destun yma."

Elle a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y salwch yn brofiad anodd i deulu Elle hefyd

Dywedodd fod y profiad wedi bod yn arbennig o frawychus i'w theulu.

"Roedd yn od i fy rhieni glywed bod hyn wedi digwydd i'w merch, ac mae fy mam yn dweud mai dyma'r peth mwyaf brawychus iddi hi erioed fynd drwyddo.

"Doedden nhw ddim yn disgwyl i mi edrych mor wael, doedden nhw erioed wedi fy ngweld i fel 'na, roeddwn i'n hollol welw."

Dywedodd ei bod wedi bod wedi blino'n lân am rai wythnosau wedyn ac wedi teimlo'n "ychydig bach allan ohoni" am rai misoedd, ond ei bod bellach yn iawn.

"Fe wnaethon nhw weithredu'n gyflym ac fe gyrhaeddais i'r ysbyty'n gyflym, ond mae mor wahanol i bawb."

Beth yw sepsis a beth yw'r symptomau?

Mae sepsis yn adwaith difrifol i haint sy'n gallu peryglu bywyd, ac sy'n gallu datblygu'n gyflym iawn.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys:

  • twymyn uchel, neu deimlo'n boeth iawn ac yna'n oer iawn

  • methu cadw bwyd neu hylif i lawr

  • teimlo'n gysglyd iawn neu anhawster i aros yn effro

  • poen cyhyrol dwys neu anarferol

  • dolur gwddf neu tonsilitis sy'n gwaethygu'n sydyn

  • teimlad bod rhywbeth difrifol o'i le.

Elle Black a'i ffrind yn dal diodydd yn y stadiwmFfynhonnell y llun, Elle Black
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elle yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad, a "thrawmateiddiodd" ei theulu, yn annog myfyrwyr eraill i ofyn am gyngor meddygol

Yn ôl Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, mae tua 48,000 o bobl yn marw o sepsis yn y DU bob blwyddyn.

Dywedodd elusen Sepsis Research fod y cyflwr yn "anaml yn cyflwyno'i hun yn glir".

"Mae'n aml yn datblygu o heintiau sy'n ymddangos yn gyfarwydd ac yn hawdd eu rheoli, a dyna pam y gall gael ei anwybyddu mor hawdd," meddai.

Ychwanegodd y gall "teimlo'n gysglyd iawn, cyfogi, blinder a theimlo'n ofnadwy yn gyffredinol ar ôl noson allan gael eu priodoli gan fyfyrwyr i effeithiau alcohol, diffyg cwsg neu ffliw'r wythnosau cyntaf yn y brifysgol".

Dywedodd yr elusen fod "profiad Elle yn dangos pam ei bod mor bwysig peidio â diystyru symptomau sy'n ddifrifol, yn gwaethygu neu'n teimlo'n fwy difrifol na'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl fel arfer".

Mae Elle yn bwriadu rhedeg Marathon Llundain y flwyddyn nesaf i godi arian i Sepsis Research, ac mae'n annog unrhyw un sy'n meddwl y gall eu hangover fod yn rhywbeth mwy difrifol, i geisio cyngor meddygol.

"Gyda rhywbeth mor beryglus â sepsis, does dim llawer o straeon lle mae popeth yn iawn yn y diwedd - mae'n frawychus pa mor gyflym mae'n digwydd.

"Mae'n rhoi pethau mewn persbectif - nid hangover yw e bob tro, weithiau mae'n rhywbeth gwaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.