Galw am ohirio cynllun dangos pasport wrth deithio ar fferis i Iwerddon

Fferi Stena LineFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O ddiwedd Medi ymlaen bydd angen i bobl ddangos pasport wrth deithio ar fferi rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon

GanLiam Evans
Gohebydd Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am ohirio cynlluniau fyddai'n golygu bod yn rhaid i deithwyr fferi rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyflwyno pasport cyfredol.

Ers blynyddoedd dim ond prawf o ddinasyddiaeth Brydeinig, fel trwydded yrru y mae teithwyr wedi gorfod ei ddarparu.

Ond yn ôl cwmnïau Irish Ferries a Stena Line, sy'n cynnal gwasanaethau rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon, mae nhw'n newid eu polisïau er mwyn gwella eu data ar deithwyr i'w ddarparu i Lywodraeth y DU.

Yn ôl y Swyddfa Gartref does dim newid mewn deddfwriaeth, a chwmnïau unigol sydd wedi gwneud y penderfyniad.

Llinos Medi AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Ynys Môn, Llinos Medi wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref, gan alw am amser i drafod ac addasu

Gan bod y Deyrnas Unedig a Chymru yn rhan o'r Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel Area), mae cytundeb rhwng Llywodraeth Prydain ac Iwerddon nad oes angen pasport cyfredol er mwyn teithio rhwng y ddwy wlad.

Mae'r cytundeb hwnnw'n parhau, ond yn ôl cwmnïau Stena Line ac Irish Ferries sy'n cynnal gwasanaethau fferi, mi fyddan nhw bellach yn ei gwneud hi'n orfodol i ddangos pasport wrth hwylio.

Yn ôl y cwmnïau mae nhw'n gwneud hynny er mwyn "cydymffurfio gyda gofynion y Llu Ffiniau wrth gryfhau cywirdeb ac uniondeb data teithwyr cyn teithio".

Daeth y cyhoeddiad gan y cwmnïau ar 26 Awst, gyda'r drefn newydd i ddod i rym ar 28 Medi, gan arwain at alwadau am bwyllo.

"Dwi 'di 'sgwennu at y Swyddfa Gartref a dwi hefyd mewn cyswllt efo'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau," meddai AS Ynys Môn, Llinos Medi.

"[Dwi'n gwneud hynny] er mwyn gweld oes 'na unrhyw gyfle fedrwn ni wneud rŵan er mwyn ailedrych ar hyn".

"Y pethau pwysicaf y gallwn ni wneud rŵan ydi dal ar a pheidio a dod â hyn i fodolaeth ar ddiwedd Medi, a rhoi cyfle i gwmnïau addasu a chael y sgwrs, os oes na unrhyw fath arall o ID allai fod yn dderbyniol i'r teithiau hyn."

Yn ôl data y Cyfrifiad yn 2021, mae gan 86.5% (51.6m) o bobl y Deyrnas Unedig basport ac 13.5% heb (8m).

Grŵp Dros Dro a'u cefnogwyr yn dathlu ar ôl ennill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn 2025Ffynhonnell y llun, Yr Ŵyl Ban Geltaidd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cydlynydd Cymru ar gyfer yr Ŵyl Ban Geltaidd, Arwel Roberts, yn dweud ei fod yn "rhwystredig" nad oes digon o rybudd wedi bod ynglŷn â'r newid

Mae'r penderfyniad wedi arwain at gwynion hefyd gan gwmnïau ac unigolion sy'n arwain teithiau.

Arwel Roberts o Ruddlan ydy cydlynydd Cymru ar gyfer yr Ŵyl Ban Geltaidd, ac mae'n trefnu bws i fynd i'r ŵyl yn Iwerddon bob blwyddyn.

"[Dwi] dipyn bach yn rhwystredig, does dim digon o rybudd yn fy marn i," meddai.

"Pam bod y cwmnïau hyn am wneud hynny rŵan?

"O'r blaen oedda chi jest yn dangos eich trwydded yrru ac o'ni 'n dweud wrth y bobl, peidiwch a phoeni.

"Pam na fedrwn i wneud hynny? Pam bod yn rhaid gwneud hyn rŵan?

"Bydd yn rhaid imi gysylltu efo pawb sydd eisiau dod draw i'r ŵyl rŵan, y corau ac ati.

"Fydd o'n lot o waith".

'Newid ofnadwy o sydyn'

Ategu'r pryder yna mae'r flogiwr a'r dylanwadwr gwyliau Anna Wyn o Gaernarfon.

"Mae'r newid 'di dod yn ofnadwy o sydyn o fod angen pasbort.

"Dwi'n meddwl dyna 'di un o'r pethau mwyaf, mae'n gallu cymryd hyd at dair wythnos i basport gyrraedd mewn ffordd.

"A hefyd y gost, dros £100 i oedolion, dwi'n hun wedi bod i Iwerddon am y diwrnod ac wedi cael diwrnod grêt yn mynd ar y fferi, a phe bawn i'n gorfod talu am basport newydd ar ben hynny, dwi meddwl 'sa hynny wedi gwneud imi feddwl ddwywaith cyn mynd."

Yn ôl cwmni Stena Line dydy nhw ddim yn rhagweld y bydd y newid yn arwain at unrhyw oedi wrth i deithwyr gyrraedd porthladdoedd.

Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Gartref nad oes "unrhyw newid wedi ei wneud o ran gofynion i bobl sy'n teithio i'r DU".

"Mae gofyn am basport er mwyn darparu'r wybodaeth yma yn benderfyniad a wnaed gan y cwmnïau fferi sy'n cynnal gwasanaethau a theithiau rhyngwladol rhwng Iwerddon a Phrydain."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.