Cyflwyno gwobr er cof am 'lais eiconig' y Sioe Fawr, Charles Arch

Charles ArchFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Arch yn 2024 ar drothwy y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd

Bydd gwobr yn cael ei chyflwyno yn y Sioe Fawr ddydd Iau er cof am y diweddar Charles Arch.

Bu farw ar drothwy'r sioe ddwy flynedd yn ôl yn 89 oed - a'r flwyddyn honno gan mai Ceredigion oedd yn noddi'r sioe, ef oedd i fod i'w hagor.

Roedd yn llais cyfarwydd am ddegawdau fel prif sylwebydd y sioe, gan sicrhau lle amlwg i'r Gymraeg yn y prif gylch.

"Roedd ganddo lais arbennig fel prif sylwebydd y Sioe Fawr. I nifer fe oedd llais eiconig y sioe ac roedd e'n dod â gwefr i'r digwyddiad," meddai prif weithredwr y sioe, Aled Rhys Jones adeg ei farwolaeth.

"Ry'n yn cofio hefyd am ei gyfraniad arbennig i gefn gwlad Cymru."

Bydd y wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol i gystadleuydd ifanc sy'n trin a dangos anifail.

Eleni, enillydd ifanc yn adran y gwartheg biff fydd yn derbyn y wobr.

Charles ArchFfynhonnell y llun, Llun teulu

Roedd Charles Arch yn angerddol am sylwebu, ac fe gafodd y cyfle i ddechrau gwneud hynny yn 1980, meddai llefarydd ar ran y sioe.

"Dros y blynyddoedd datblygodd ei sgil, meithrinodd dalent ifanc a hyrwyddodd y defnydd o'r Gymraeg ar faes y sioe.

"Un o uchafbwyntiau'r sioe i Charles oedd y parêd mawr ar y diwrnod olaf, a bydd y rhai a fu'n gweithio'n agos gydag ef yn gwybod pa mor bwysig oedd hi iddo fod popeth yn rhedeg ar amser ac yn fanwl gywir.

"Roedd e'n paratoi yn fanwl ac yn arddangos proffesiynoldeb o'r radd flaenaf.

"Fel rhan o waddol Charles Arch bydd gwobr flynyddol newydd yn cael ei chyflwyno yn ystod y parêd ddydd Iau.

"Bydd y wobr yn cael ei rhoi i berson ifanc sy'n arwain a dangos anifail ar y cae.

"Gan ddilyn fformat Cwpan y Frenhines, bydd y wobr yn cael ei rhoi i fuddugwr ifanc mewn gwahanol adran bob blwyddyn - eleni y sawl fydd yn ennill yn adran y gwartheg biff fydd yn ei derbyn, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf bydd cyfle i fuddugwyr yn adrannau y defaid, moch, ceffylau a chŵn defaid ei hennill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol