Arestio 6 ar amheuaeth o weithio'n anghyfreithlon mewn bwytai yn y gorllewin

Fe wnaeth swyddogion ymweld â changen Florentino's yn Ninbych-y-pysgod fel rhan o'r ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o weithio'n anghyfreithlon mewn dau fwyty Eidalaidd poblogaidd yn y gorllewin.
Cafodd pedwar eu harestio ym mwyty Florentino's yng Nghaerfyrddin, a dau arall ym mwyty'r cwmni yn Ninbych-y-pysgod.
Fe ddigwyddodd yr ymweliad â'r gangen yng Nghaerfyrddin ar 20 Chwefror, a'r ymweliad â Dinbych-y-pysgod ar 18 Mehefin.
O'r pedwar a gafodd eu harestio yng Nghaerfyrddin, roedd dau yn dod o Romania, un o Bangladesh, ac un o Mongolia, yn ôl y Swyddfa Gartref.
Ychwanegon nhw fod y ddau a gafodd eu harestio yn Ninbych-y-pysgod yn dod o Romania.
Dirwy posib o £60,000 y gweithiwr
Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae tri o'r chwech eisoes wedi dychwelyd i'w gwledydd cartref ac mae un arall wrthi'n dychwelyd.
O'r ddau arall, mae un wedi'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'n parhau, tra bod yr olaf wedi cael ei ryddhau gyda rhybudd.
Mae gwaith nawr yn mynd rhagddo i benderfynu pwy sy'n gyfrifol am gyflogi'r unigolion.
Gall cyflogwyr sy'n torri'r gyfraith wynebu dirwy o hyd at £60,000 am bob gweithiwr, yn ôl y Swyddfa Gartref.