Amheuon yn parhau a fydd y llywodraeth yn gallu pasio cyllideb

- Cyhoeddwyd
Mae amheuon yn parhau ynghylch a fydd llywodraeth Plaid Cymru yn gallu pasio ei chyllideb atodol drwy'r Senedd yr wythnos nesaf, ar ôl i Lafur wrthod cytundeb i'w cefnogi nos Iau.
Wrth siarad mewn cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Guernsey ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog, Rhun ap Iorwerth, mai "dewis Llafur" oedd ef ac mai hwn oedd "y cynnig", gan fod gweinidogion yn gweithio o dan gyfyngiadau ariannol llym.
Roedd Plaid Cymru wedi cynnig £80m ychwanegol dros ddwy flynedd i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ond mae Llafur eisiau £100m yn y gyllideb atodol.
Mae angen i Blaid Cymru ddod i gytundeb er mwyn i'w chynlluniau gwario gael eu cymeradwyo, gan nad oes ganddi fwyafrif yn y Senedd.
Dywedodd llefarydd Llafur ar gyllid, Huw Thomas, y byddai ei blaid yn gwrthwynebu'r gyllideb "fel y mae hi".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth BBC Cymru y dylai Llafur "feddwl pam y byddent eisiau siomi rhieni ac awdurdodau lleol... pan oedd pecyn mor gynhwysfawr ar y bwrdd".
Ychwanegodd: "Eu dewis nhw ydy o rŵan."
Will Hayward: 'Bod yn Sais yn helpu wrth ohebu am Gymru'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rhun ap Iorwerth yn galw ar Andy Burnham i rymuso'r Senedd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n rhaid iddo fynd yn ôl at Lafur gyda chynnig gwell, dywedodd: "Mae'r cynnig hwn gennym ar y bwrdd, sydd 10 gwaith yn fwy na'r hyn yr oedd Llafur yn bwriadu ei wario ar anghenion dysgu ychwanegol.
"Rydym yn barod i symud ymlaen gyda hyn."
Dywedodd ap Iorwerth fod ei lywodraeth wedi mynd mor bell ag y gallai ac yn gweithio o dan gyfyngiadau ariannol.
Ond mynnodd Mr Thomas nad oedd y cynnig yn ddigon: "Fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddwn yn ei wrthwynebu."
"Mae rhai pethau penodol yn digwydd os nad yw'r gyllideb atodol yn cael ei phasio, ond byddwn ar gael i ddod yn ôl a phleidleisio o'i phlaid yr wythnos ganlynol os mai dyna mae Plaid eisiau ei wneud, os byddant yn bodloni ein gofynion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.