'Hyd at 100 o bobl ifanc wedi peri pryder' ger traeth a chastell - heddlu

Dywed yr heddlu eu bod wedi cael gwybod bod hyd at 100 o bobl ifanc ar draeth Llansteffan nos Sadwrn a bod ymddygiad rhai wedi peri pryder
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n rhybuddio na fydd yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ôl ymateb i gwynion yn ardal traeth a chastell Llansteffan, yn Sir Gaerfyrddin.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiadau bod rhwng 80 a 100 o bobl ifanc "yn achosi pryder" i bobl leol yno nos Sadwrn.
Yn ôl y llu, "roedd y llanciau yma'n [creu problemau] trwy yfed alcohol, creu sbwriel a dringo muriau'r castell gan beri loes i aelodau'r cyhoedd.
Maen nhw'n rhybuddio "rhieni sy'n gollwng eu plant yn yr ardal" y bydden nhw ac asiantaethau perthnasol yn delio ag "unrhyw droseddau a gafodd eu hysbysu / eu gweld", gan gynnwys "rhieni'n prynu alcohol yn fwriadol i'w plant i fynd i'r lleoliad".
Ychwanegodd y llu: "Ni wnawn ni oddef yr ymddygiad yma ac rydym eisiau i en traethau a chestyll fod yn lefydd y gall teuluoedd ymweld â nhw drwy'r haf."
Mae'n rhybuddio y bydd yn ystyried gosod gorchymyn gwasgaru yn yr ardal "os fydd yr ymddygiad yma'n parhau".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.