Y bocsiwr Joe Cordina yn pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o ymosod

Joe Cordina yn cyrraedd Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-bencampwr bocsio Joe Cordina wedi gwadu ymosod ar ddyn y tu allan i orsaf betrol yng Nghaerdydd.
Fe ddywedodd Heddlu De Cymru fis diwethaf bod Mr Cordina, 34, ymhlith dau ddyn oedd yn wynebu cyhuddiadau mewn cysylltiad â digwyddiad yn ardal Pentwyn ym mis Chwefror.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, fe gadarnhaodd ei enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad, a phledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad o ymosod ar Jamie O'Brien trwy ei guro.
Mae Mr O'Brien, sy'n 33 mlwydd oed ac o Bentwyn, hefyd yn wynebu cyhuddiad o ymosod trwy guro, ond wnaeth e ddim cyflwyno ple.
Cafodd Mr Cordina ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiamod, ac mae disgwyl i'w achos gael ei gynnal ar 13 Hydref.
Mae Mr O'Brien hefyd wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae ei achos yntau wedi ei ohirio tan 26 Awst.
Mae'r llys eisoes wedi clywed fod y cyhuddiadau'n ymwneud â digwyddiad rhwng y ddau.
Dywedodd cyfreithiwr Mr Cordina wrth y gwrandawiad fod yr achos yn cael "effaith ddinistriol ar yr hyn mae Mr Cordina yn ei wneud orau, sef bocsio".
Ddechrau'r mis fe gafodd gornest yn yr Unol Daleithiau ei chanlso ar ôl i'r bocsiwr uwch-bwysau plu fethu â chael fisa i deithio yno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
