Cyn-heddwas yn y llys wedi'i gyhuddo o dreisio dynes tra ar ddyletswydd

Rikki Hall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rikki Hall bellach wedi ymddiswyddo o'i rôl gyda Heddlu'r De

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-swyddog heddlu wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw difrifol tra ar ddyletswydd.

Mae Rikki Hall, 33 o Abertawe, yn wynebu chwe chyhuddiad sy'n ymwneud â'i gyfnod yn gweithio i Heddlu De Cymru yn y ddinas.

Clywodd Llys Ynadon Bryste fore Iau ei fod wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio, a thagu dynes ym mis Chwefror 2024.

Yn ogystal, mae'n wynebu dau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy "ymgymryd â gweithred rywiol gydag aelod o'r cyhoedd wnes di gwrdd tra'n gwneud gwiriadau diogelwch a lles" a drwy "drefnu apwyntiadau gyda gweithwyr rhyw".

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod â chwistrellydd PAVA, neu pepper spray, yn ei feddiant heb ganiatâd.

Ni chafodd ple ei gyflwyno ond clywodd y llys mai'r awgrym yw y byddai'n pledio'n ddieuog.

Dywedodd y barnwr y byddai'r achos yn cael ei gyfeirio at Lys y Goron oherwydd natur ddifrifol y troseddau honedig.

Cafodd Mr Hall ei ryddhau ar fechnïaeth amodol gyda disgwyl iddo ymddangos eto yn Llys y Goron Bryste ar 28 Medi.

Daw'r achos yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu, a nododd fod Mr Hall wedi ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad hwnnw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol