Cyngor Sir Gâr i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau dwy ysgol gynradd

Ysgol y Fro a MeidrimFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi eu bod am fwrw ymlaen i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau dwy ysgol gynradd er bod yna her gyfreithiol yn eu herbyn.

Fe ddaw'r penderfyniad yn dilyn "cyfnod ymgynghori ffurfiol" ar gyfer cau Ysgol Meidrim ac Ysgol Y Fro, meddai'r cyngor.

Ond dydy'r Uchel Lys ddim wedi rhoi dyfarniad eto i'r adolygiad barnwrol gafodd ei gyflwyno gan ymgyrchwyr fis diwethaf ynghylch y bwriad i gau Ysgol Meidrim.

Cynllun Cyngor Sir Gâr ydy cau Ysgol Meidrim ac Ysgol Y Fro ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf oherwydd "nifer isel" y disgyblion.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod wedi'u synnu gan y penderfyniad ac y byddan nhw'n cydweithio â llywodraethwyr y ddwy ysgol i gasglu gwrthwynebiadau i'r hysbysiadau statudol.

Ysgol y FroFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn bwriadu cyflwyno gwrthwynebiadau i'r hysbysiadau statudol

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Llun i gyhoeddi hysbysiadau statudol i gau'r ddwy ysgol, gyda'r cyfnod statudol yn dechrau ym mis Mehefin.

Dywedodd y cyngor fod y penderfyniad yn dilyn "cyfnod ymgynghori ffurfiol gyda disgyblion, athrawon, rhieni, llywodraethwyr a chymuned ehangach y ddwy ysgol rhwng 16 Ionawr a 2 Mawrth" eleni.

Yn ôl y cyngor, mae'r ddwy ysgol wedi'u nodi gan fod "nifer fach iawn o ddisgyblion", "nifer uchel o leoedd gwag", a phwysau ariannol cynyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, aelod cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros addysg, nad oedd y penderfyniad wedi'i wneud "ar chwarae bach" ond bod y rhesymau a nodwyd "wedi gorfodi'r Cabinet i ddod i'r casgliad hwn".

Ysgol Meidrim
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynodd ymgyrchwyr sy'n ceisio achub Ysgol Meidrim achos am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd fis diwethaf

Fis diwethaf fe gyflwynodd ymgyrchwyr sy'n ceisio achub Ysgol Meidrim achos am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Mae'r ymgyrchwyr yn honni fod y broses ymgynghori yn annheg ac nad yw'r cyngor wedi bod yn barod i ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol yr ysgol.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod "wedi synnu" gan benderfyniad y cyngor i fwrw ymlaen â'r broses.

Dywedodd y mudiad fod cau Ysgol Meidrim yn golygu colli cyfle i ddatblygu cynllun hwb cymunedol ochr yn ochr â'r ysgol er mwyn "adfywio cymunedau gwledig Cymraeg".

Ychwanegodd y gallai cau Ysgol y Fro leihau capasiti addysg Gymraeg yn ardal tref Caerfyrddin ac arwain at golli disgyblion i addysg Saesneg.

Plant Ysgol MeidrimFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni, disgyblion a llywodraethwyr wedi ymgyrchu yn erbyn y cynigion cau

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran cangen Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith y bydden nhw'n "cydweithio â llywodraethwyr y ddwy ysgol i gasglu gwrthwynebiadau i'r Hysbysiadau Statudol i gau cyn y penderfyniadau terfynol yn yr hydref".

"Gofynnwn hefyd i'r llywodraeth ymyrryd fel nad yw ymrwymiad at wydnwch gwledig yn ddiystyr yn ymarferol," ychwanegodd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i adeiladu cymunedau gwledig cryf a gwydn."

Dywedodd fod cynllunio lleoedd ysgol yn fater i awdurdodau lleol.

Ychwanegodd y bydd yn "adolygu sut mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn cael ei gweithredu i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llywio yn gyntaf ac yn bennaf gan fuddiannau gorau disgyblion".