BBC Extend

BBC Extend yw rhaglen gweithredu cadarnhaol y BBC ym maes cyflogaeth ar gyfer pobl fyddar, anabl neu niwrowahanol.

Gweld yr holl swyddi Extend

Cyflwyniad

BBC Extend yw rhaglen gweithredu cadarnhaol y BBC ym maes cyflogaeth ar gyfer pobl fyddar, anabl neu niwrowahanol.

Tra bod y BBC yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl ar gyfer unrhyw un o’r rolau mae’n eu hysbysebu, a’n bod yn annog pobl anabl i wneud cais am unrhyw rôl, mae BBC Extend yn neilltuo rolau sydd ar gael yn unig i bobl sy’n cael eu diffinio fel pobl anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae hyn yn golygu pobl sy’n cael eu diffinio fel pobl anabl o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Rydym yn cydnabod bod pobl anabl yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu, a’n nod yw creu rhagor o gyfleoedd i bobl anabl yn y BBC.

Gallwch weld yr holl swyddi BBC Extend sydd ar gael ar hyn o bryd ar ein gwefan gyrfaoedd, a gallwch hefyd gofrestru ar gyfer rhestr bostio Cronfa Dalent y BBC i glywed am y rolau wrth iddynt ddod ar gael.

Gweld yr holl rolau BBC Extend sydd ar gael ar hyn o bryd.

Cofrestru ar gyfer rhestr bostio Cronfa Dalent BBC Extend.

Wrth ymuno â'r BBC, fel person niwrowahanol, yr hyn ro’n i’n ei deimlo ar y dechrau oedd ofn.
Dydy’r BBC ddim yn berffaith, ond mae’n sicr yn barod i ddysgu a deall ac addasu ar sail amrywiaeth.
Ffilmio menywod beiddgar ar fy ffôn oeddwn i ar y dechrau. Menywod cŵl yn gwneud pethau cŵl. Llafur cariad o ryw fath.
Roedd y fideos yn llwyddiannus. Gofynnodd uwch swyddog a fyddwn i eisiau ymuno a bod yn ymchwilydd iau direidus. Ac fe ddwedais y byddwn i wrth fy modd yn bod yn ymchwilydd iau direidus!
Dwi wedi dringo’r ysgol o fod yn ymchwilydd i gynhyrchydd, ac yn gyflwynydd hefyd erbyn hyn.
Mae pob diwrnod yn wahanol iawn, ac mae radio yn symud yn gyflym. Edrych ar faterion cyfoes, neu drefnu cyfweliad doniol.
Dwi wrth fy modd gyda’r BBC. Nid yn y Deyrnas Unedig y ces i fy ngeni. Fe ddes i yma pan oeddwn i’n 10 oed. Doeddwn i ddim yn siarad Saesneg. Drwy wylio CBBC y gwnes i ddysgu Saesneg.
Mae gen i ddyslecsia ac ADHD. Mae fy ymennydd i’n gweithio’n gyflymach na fy ngheg. Roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth yn cyflawni unrhyw beth yn fy mywyd.
Roeddwn i’n gwybod fy mod i wrth fy modd â cherddoriaeth, a fy mod i’n greadigol.
Dwi bob amser wedi teimlo mai yma ydw i fod.
Y llynedd, fe wnes i ymchwilio i hygyrchedd tai yn y wlad. Mae’n stori fawr yn fy marn i, oedd heb gael sylw. Petawn i ddim yma, yn yr adeilad yma, fyddai’r stori ddim wedi cael sylw.
Gallwch gyfuno pobl sydd wedi arfer â math penodol o stori, a phobl sy’n teimlo nad yw eu straeon nhw yn cael eu hadrodd.
Mae cael cyfle i drafod hyn yn agored wedi gwneud i mi ddatblygu’n bersonol. Mae wedi bod yn fuddiol iawn i mi, ac yn fuddiol iawn i fy ngyrfa hefyd.
O ran elfennau o gynrychiolaeth, bydd pobl bob amser yn gallu dweud: “Mae lle i mi yn y BBC”. Fe ddylwn i allu ei newid ar sail fy mhrofiad i.
Ond does neb erioed wedi gwneud i mi deimlo mod i’n methu gwneud rhywbeth. Mae hyn y tu hwnt i fy mreuddwydion. Dw i’n teimlo bod gen i gefnogaeth, ac mae hynny’n braf iawn.
Dydw i erioed wedi cael fy ystyried yn rhywun sy’n methu gwneud ei waith, neu sydd ddim yn abl. Mae gen i hyder yn fy ngallu erbyn hyn. A phan fydd gen i farn neu syniad, dwi’n gwybod y bydd yn deilwng, a dwi’n gwybod nawr y dylwn ei rannu.
Dwi’n gwybod y bydda i’n cael fy nerbyn, ac y bydd pobl yn gwrando arna i.
Wir, rydw i’n teimlo balchder bob dydd wrth gerdded i mewn yma.
Roeddwn i’n teimlo, waw, mae gen i gartref go iawn yma.

Crynodeb

  • Pwy sy’n cael gwneud cais am rolau BBC Extend?

    Mae unrhyw un sy’n cael ei ddiogelu gan y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb 2010, neu Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, yn gallu gwneud cais am rolau BBC Extend. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yn datgan eich bod yn berson anabl os oes gennych amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol neu andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau y gellir eu gweld a rhai na ellir eu gweld, a chyflyrau meddygol fel canser, HIV neu sglerosis ymledol. Mae hefyd yn cynnwys pobl sy’n ystyried eu hunain yn niwrowahanol neu’n fyddar neu’n drwm eu clyw.

  • Ddylwn i ddatgelu fy mod i’n anabl?

    Er mwyn i ni sicrhau mai dim ond pobl anabl sy’n cael eu hystyried ar gyfer swyddi BBC Extend, mae angen i chi ddweud wrthym yn y cam ymgeisio eich bod yn ystyried eich hun yn anabl – ond does dim angen i chi ddweud wrthym beth yw eich amhariad neu eich cyflwr. Mae cwestiwn dewisol yn y cais hefyd, i ddweud wrthym am yr addasiadau sydd eu hangen arnoch yn y cam ymgeisio, yn y cyfweliad, a phan fyddwch yn y swydd.

  • Fydd angen i mi fod mewn swyddfa bob dydd?

    Efallai bydd rhai swyddi rydym yn eu hysbysebu yn gofyn am bresenoldeb ar y safle, yn enwedig os ydyn nhw’n gysylltiedig â chynhyrchu neu gynnwys. Fodd bynnag, mae gan y BBC ddull gweithio hyblyg ac mae rhyw fath o weithio gartref yn opsiwn ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi. Mae gennym hefyd leoliadau ar hyd a lled y DU lle gallwch chi weithio, felly nid yw pob swydd mewn swyddfa – er efallai bydd angen teithio i swyddfa yn ôl yr angen.

  • Pa fath o swyddi sydd ar gael?

    Mae swyddi BBC Extend yn amrywio o ran math, hyd a statws. Rydym yn hysbysebu swyddi gwag sy’n amrywio o gynorthwywyr amserlennu hyd at rolau uwch newyddiadurwr, ac mae gennym hefyd swyddi nad ydynt yn ymwneud â chynnwys fel arbenigwyr Adnoddau Dynol a dylunwyr graffig. Ein nod yw clustnodi swyddi ar bob lefel – o lefel mynediad i uwch reolwr – ac amrywio hyd ein contractau o gontractau cyfnod penodol i swyddi parhaol.

  • Ydych chi’n darparu addasiadau?

    Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni. Os byddwch chi’n llwyddo yn eich cais am y swydd hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch chi, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.

Cwestiynau Cyffredin

Mae rolau BBC Extend ar gyfer pobl a fyddai’n cael eu hystyried yn anabl yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb (2010). Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn nodi eich bod yn berson anabl os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflwr neu nam amlwg ac anamlwg, yn ogystal â chyflyrau meddygol hirdymor.

Os ydych yn teimlo eich bod yn bodloni’r meini prawf uchod, gallwch wneud cais am rôl BBC Extend. Nid ydym yn gofyn am dystiolaeth feddygol nac am ddiagnosis meddygol yn ystod ein camau ymgeisio, ac ni allwn ddweud wrthych a ydych yn bodloni’r diffiniad uchod.

Rhaid i’r penderfyniad fod yn eiddoch chi.

Fel Cyflogwr Lefel 2 Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cynnig Cynllun Cyfweliadau Hyderus o ran Anabledd ar gyfer pob rôl yn y BBC. Byddwn yn ceisio cynnig cyfweliad i chi os ydych yn:

  • dewis ymuno â’r cynllun hwn ar adeg gwneud cais;
  • yn dangos yn glir eich bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl yn eich cais; ac
  • yn nodi eich hun fel person anabl yn eich cais.

Rhaid i chi gwblhau’r tri cham uchod i gael eich ystyried o dan y cynllun hwn.

Mae’n bwysig nodi y gall fod adegau pan nad yw’n bosibl cyfweld pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer rôl. Er enghraifft, mewn sefyllfaoedd recriwtio penodol megis nifer uchel o geisiadau, ymgyrchoedd tymhorol, neu gyfnodau brig recriwtio, efallai na fyddwn yn gallu gweithredu’r cynllun hwn. Mae hyn yn unol â chyngor Cynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am swyddi drwy gyfeiriad e-bost BBC Extend, ac nid ydym yn derbyn llythyrau eglurhaol cyffredinol na CVs. Rhaid cyflwyno pob cais am swydd drwy wefan Gyrfaoedd y BBC oni bai eich bod angen addasiad rhesymol i gyflwyno cais mewn fformat gwahanol.

Os ydych wedi gofyn i gyflwyno eich cais mewn fformat amgen, bydd rhywun yn cysylltu â chi – ond ni fydd ceisiadau nad oes angen addasiad rhesymol arnynt yn cael ymateb.

Sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich cais ar wefan Gyrfaoedd y BBC – ni fydd ceisiadau’n cael eu prosesu drwy’r cyfeiriad e-bost hwn oni bai eich bod angen addasiad.

Yn y BBC rydym bob amser yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad eu cais. P’un a ydych wedi bod yn llwyddiannus wrth gael cyfweliad neu heb gael eich dewis i symud ymlaen i’r cam nesaf y tro hwn, byddwn bob amser yn anfon e-bost i roi gwybod i chi.

Gall rhai rolau gymryd 3–4 wythnos i gwblhau’r broses rhestru fer, felly peidiwch â phoeni os nad ydych wedi clywed unrhyw beth eto. Cadwch lygad ar eich e-byst a byddwn mewn cysylltiad.

Gwiriwch yn rheolaidd wefan Gyrfaoedd y BBC am bob rôl BBC Extend sydd ar gael ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu paru ymgeiswyr unigol â rolau a allai fod yn addas iddynt.


Cysylltu

 Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â BBC Extend drwy’r blwch post a rennir.


  • Amdanom ni

    O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: