BBC Studios

Bob dydd, mae miliynau o bobl yn cysylltu â’r gwaith a grewyd gan ein tîm talentog.

Gwybodaeth am BBC Studios

Ni yw BBC Studios – cwmni cyfryngau byd-enwog sy’n deillio o’r BBC. Rydym yn arwain y ffordd wrth fynd ati i gynhyrchu a dosbarthu cynnwys teledu, sain a digidol mwyaf eiconig a phoblogaidd y byd.

Ein huchelgais yw bod yn gartref i’r straeon mwyaf pwerus, difyr ac ysbrydoledig ar gyfer pobl ym mhob cwr o’r byd.

Gan fod BBC Studios yn gweithio ar draws y byd, gallwch ddod o hyd i ni ym mhobman bron. Mae’r cyrhaeddiad byd-eang hwn yn ein helpu i ganfod a chynhyrchu’r cynnwys gorau sydd gan y byd i’w gynnig.

 

Straeon ein plentyndod, a’r straeon sy’n newid y ffordd rydyn ni’n gweld y byd.
Ni sy’n creu diwylliant.
Yn creu’r cynnwys sy’n gwneud i bobl stopio sgrolio, a dechrau meddwl.
Ac yn gofyn "beth allwn ni ei wneud yn wahanol?"
Oherwydd safbwyntiau newydd sy’n ein siapio.
Eiconau heddiw, a sêr y dyfodol.
Rydyn ni’n helpu i greu rhaglenni sy’n ysbrydoli.
Yn sicrhau bod ein cynulleidfa yn teimlo pob trobwynt, pob uchafbwynt, pob 10 pwynt.
Rydyn ni’n adrodd straeon sy’n cychwyn sgwrs ac yn sbarduno newid.
Camu’n ôl, er mwyn gweld y darlun llawn.
Taflu goleuni ar y straeon sy’n ein clymu ni i gyd.
Ein hanes sy’n ein siapio, ond ein creadigrwydd sy’n ein gwthio ymlaen.
Symud gyda’r oes, adrodd stori pawb, ac ymfalchïo yn ein crefft.
Bob amser yn edrych tua’r gorwel.
Cydweithio ar draws ffiniau, timau, a chyfandiroedd.
Dod â byd cymeriadau poblogaidd yn fyw yn ein byd ni.
Troi braslun yn realiti.
Ac ysbrydoli miliynau o bobl drwy danio eu dychymyg.
Amgylchynu pobl â’r pethau maen nhw eisiau eu gwylio, a’r pethau maen nhw angen eu clywed.
Cynnig cipolwg ar fywyd go iawn, a chreu bydoedd newydd i ymgolli ynddynt.
Ydych chi’n barod i fod yn rhan o rywbeth mwy?
Mae lle i chi yn BBC Studios.

Rhywfaint o’n gwaith

Rydym yn creu ac yn dosbarthu’r cynnwys mwyaf poblogaidd yn y byd, yn ogystal â chreu a meithrin brandiau eiconig. Rydym yn cyflwyno ein crefft i gynulleidfaoedd byd-eang drwy rai o’r sefydliadau cyfryngau a’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf yn y byd, fel Amazon, Apple, Disney, France Télévisions, Netflix, PBS, Warner Bros Discovery, a ZDF, ymysg eraill.Rhagor o wybodaeth am BBC Studios
  • Sêr EastEnders yn gosod yn erbyn cefndir aur

    Eastenders

    Ar ôl dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed ym mis Chwefror 2025, gyda phennod fyw arbennig, mae’r opera sebon eiconig yn parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda’i straeon gafaelgar a’i chymeriadau cymhleth. Mae EastEnders wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys ennill y Ddrama Gyfres Orau yn y National Television Awards yn 2023, ac mae’r llwyddiant hwn yn parhau.
  • Dau arth yn cerdded trwy ddŵr bas

    Asia

    Yn 2024 lansiwyd y rhaglen Asia gan yr Uned Hanes Naturiol, ar ôl treulio bron i bedair blynedd yn ei chreu. Dyma’r tro cyntaf i’r cyfandir fod yn ganolbwynt un o brif gyfresi bywyd gwyllt y BBC. Mae'r gyfres yn arddangos amrywiaeth syfrdanol mannau mwyaf gwyllt Asia, fel anialwch enfawr y Gobi a jynglau Borneo, diffeithwch ardal begynol Siberia a moroedd cwrel cefnfor India.
  • “Life and Death Row” teitl dros wely gyda rhwymau

    Life and Death Row

    Ddegawd ar ôl y gyfres wreiddiol, a enillodd wobr BAFTA, roedd Uned Rhaglenni Dogfen BBC Studios wedi lansio’r bedwaredd gyfres o Life and Death Row yn 2025. Mae’r gyfres yn dilyn dyddiau olaf achosion sy’n destun y gosb eithaf, gyda thair rhaglen ddogfen newydd sy’n edrych ar system y gosb eithaf drwy lygaid y rhai sydd agosaf ati, o'r carcharorion sy’n wynebu cael eu dienyddio, i’r dioddefwyr sy’n gobeithio cael rhyw ymdeimlad o heddwch.
  • Cyflwynwyr Blue Peter ar y set

    Blue Peter

    Blue Peter yw’r rhaglen i blant sydd wedi bodoli am y cyfnod hiraf yn y byd, ac mae’n cael ei chynhyrchu gan ein tîm Plant a Theulu ni yma yn BBC Studios. Mae’n dal yn sioe boblogaidd iawn ymysg cenedlaethau ar draws y DU, gyda’r rhaglen yn dathlu ei phen-blwydd yn 65 oed ym mis Hydref 2023. Ac mae ei bathodyn enwog, mawr ei fri, yn bodoli ers dros 60 mlynedd!
  • David Attenborough yn sefyll mewn amgylchedd jyngl

    Green Planet

    Roedd 30% o’r DU – 18.5 miliwn o bobl – wedi gwylio ein cyfres natur nodedig, Green Planet, a gafodd ei chreu gyda Syr David Attenborough. Cyflwynodd neges bwysig am werthfawrogi’r amgylchedd gan ysbrydoli ein cynulleidfa i weithredu. Dyma gynnwys sy’n dylanwadu.

Mae gweithwyr llawrydd yn rhan hanfodol o’r broses o greu a chyflawni ein cynyrchiadau anhygoel, ac yn cynnig arbenigedd creadigol a thechnegol hollbwysig ochr yn ochr â chyflogeion parhaol. Yn BBC Studios, rydym yn defnyddio gweithwyr llawrydd mewn ffordd wahanol i gyflogeion sydd ar gytundebau cyfnod penodol a chyfnod parhaol er mwyn cynnig ffyrdd gwahanol o weithio.

Sut rydym yn gweithio

  • Cydweithiwr o’r BBC yn ffilmio gwenyn y ddaear. Mae un ar eu cefn

    Cynnwys Byd-eang BBC Studios

    Ni yw’r pwerdy cynhyrchu sydd wedi ennill y nifer mwyaf o wobrau a chomisiynau yn y DU. O fyd y ddrama a chomedi i fyd natur a gwyddoniaeth, ni sy’n gyfrifol am rai o’r rhaglenni mwyaf eiconig, arloesol ar y teledu – sy’n cael eu cynhyrchu gan dimau arbenigol yn ein stiwdios ar hyd a lled y byd.
  • Dau ffôn clyfar yn arddangos rhyngwynebau ap y BBC

    Cynnwys Byd-eang BBC Studios

    Mae tîm Ffrydio a Chyfryngau Byd-eang BBC Studios yn gweithio ar draws sianeli teledu a llwyfannau ffrydio D2C rhyngwladol. Mae hyn yn cwmpasu cynnwys sain ar ffurf podlediadau poblogaidd a radio eiconig, creu cynnwys sy’n cynhyrchu refeniw, a gweithrediadau masnachol BBC News y tu allan i’r DU, yn ogystal â BBC.com ac ap y BBC, sef y wefan newyddion Saesneg sy’n cael ei darllen fwyaf yn y byd.
  • Two BBC colleagues sitting together

    Cefnogi talentau creadigol

    Yma yn BBC Studios, rydym yn frwd dros ganfod a meithrin talent eithriadol. Drwy TalentWorks, rydym yn cynnig ystod gyffrous o leoliadau gwaith, mentora a chyfleoedd hyfforddiant wedi'u teilwra sy'n tanio talentau creadigol – ar y sgrin ac oddi arni.
  • Portread o Tom Fussell, Prif Weithredwr BBC Studios

    Y Tîm Gweithredol

    Wrth galon arweinyddiaeth BBC Studios mae tîm deinamig o 10 gweithiwr proffesiynol profiadol ym myd y cyfryngau, o dan arweiniad Tom Fussell fel y Prif Swyddog Gweithredol. Mae’r tîm hwn yn llywio BBC Studios tuag at ein nodau, ac yn goruchwylio’r gwaith o greu a dosbarthu ein cyfryngau byd-enwog.
  • Bluey and Family

    Brandiau a thrwyddedu

    Rydym yn arwain y diwydiant o safbwynt creu a meithrin brandiau byd-eang eiconig. O Bluey, Dancing with the Stars a Doctor Who i BBC Earth, rydym yn denu cynulleidfaoedd byd-eang ac yn ennyn cefnogwyr drwy ein gwasanaethau ein hunain yn ogystal â gwasanaethau ein partneriaid gwerthfawr.

Buddion

Mae ein buddion craidd yn y DU yn cynnwys cymorth rhianta a gofalu, cynllun pensiwn, mynediad o bell at feddyg teulu ddydd a nos, yswiriant bywyd a budd-dal damweiniau.

Mae ein cynllun buddion hyblyg yn eich galluogi i greu pecyn sy’n bersonol i chi, gan gynnwys yswiriant iechyd, yr opsiwn i brynu neu i werthu gwyliau blynyddol, aelodaeth o gampfa, cerbydau trydan, beicio i'r gwaith, hyfforddiant personol am ddim, cyfleoedd datblygu a hyfforddiant gwych, yn ogystal â disgownt ar nwyddau a gwasanaethau. Yn rhyngwladol, mae ein buddion wedi’u teilwra i fod yn gystadleuol yn y farchnad leol.

 


  • “Rydw i wrth fy modd ag amrywiaeth ein straeon yn BBC Studios. Mae ein cyfryngau’n cwmpasu gwahanol genres sy’n cynnig dihangfa oddi wrth realiti yn ogystal â dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas.”

    Vahini – Prentis Cymorth Adnoddau Dynol
  • “Rydw i wrthi’n dilyn Prentisiaeth Hyfforddi, sydd wir wedi bod yn werth chweil. Rydw i’n gwerthfawrogi ymrwymiad BBC Studios i gefnogi gweithwyr i wella eu sgiliau.”


    Cathy – Pennaeth Gwerthiant Teledu a Fformat

Gweithio’n hyblyg a gweithio o bell

Ein nod yw darparu cydbwysedd digyffelyb rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys 26 diwrnod o wyliau. Gan ddibynnu ar anghenion eich rôl, byddwn yn eich cefnogi i weithio o’ch swyddfa yn y BBC, gartref, neu o leoliad arall sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.


  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
  • Sut rydym yn llogi

    Mae gennym amrywiaeth enfawr o gyfleoedd ledled y DU a’r byd. Dewch i wybod sut rydym yn llogi.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: