Mae eich ymddiriedaeth yn bwysig iawn i ni. Mae hynny’n golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydyn ni'n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod ac ar ôl eich perthynas â ni, yn unol â'r gyfraith diogelu data.
Pam rydyn ni’n gwneud hyn a sut allwch chi gymryd rhan?
Mae’r BBC yn gweithio gyda’r Comisiwn Etholiadol i roi’r cyfle i chi chwilio am wybodaeth allweddol am eich etholiadau yn eich ardal chi.
Nes i’r pleidleisio ddod i ben ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch nodi eich cod post a chael gwybodaeth am eich gorsaf bleidleisio a'ch ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau yn eich ardal chi.
Unwaith y bydd y pleidleisio ar ben, yna gallwch chi ddefnyddio ein hadnodd chwilio i ddod o hyd i ganlyniadau.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol er mwyn i ni ddod o hyd i wybodaeth berthnasol am eich ward etholiadol:
- Cod post
- Cyfeiriad stryd, os yw eich cod post wedi'i rannu rhwng mwy nag un orsaf bleidleisio neu etholaeth
Pwy yw’r Rheolwr Data?
Y BBC a’r Comisiwn Etholiadol yw “rheolwyr data” eich data personol. Mae hyn yn golygu bod y BBC a’r Comisiwn Etholiadol yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich data personol, a'r ffyrdd y caiff ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu eich data personol at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolwyr data, mae gan y BBC a’r Comisiwn Etholiadol gyfrifoldeb i gydymffurfio a dangos cydymffurfiaeth â'r gyfraith diogelu data.
Rydyn ni’n argymell cyfeirio at hysbysiad preifatrwydd y Comisiwn Etholiadol am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut byddant yn prosesu eich data personol.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon y mae'r BBC yn prosesu'ch data personol arni yw perfformio ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd ac i wasanaethu ei holl gynulleidfaoedd gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu, ac i adlewyrchu’r Deyrnas Unedig a’i diwylliannau a’i gwerthoedd i’r byd. Mae hyn yn cyd-fynd â phwrpasau cyhoeddus ehangach y BBC o dan ei Siarter Frenhinol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r BBC “...ddarparu newyddion a gwybodaeth ddiduedd i helpu pobl i ddeall ac i ymgysylltu â’r byd o’u cwmpas.”
Rhannu eich data personol
Bydd y BBC yn rhannu eich data gyda’r Comisiwn Etholiadol fel ein bod yn gallu cael gwybodaeth am eich etholaeth a’ch gorsaf bleidleisio ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae'r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol ac nid yn annibynnol ar y BBC.
Mae’n bosib y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Cadw eich data personol
Bydd y BBC yn cadw eich data personol am chwe (6) mis o'r pwynt casglu er mwyn adnabod a datrys unrhyw faterion dadfygio gyda'r gwasanaeth.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Eich hawliau a mwy o wybodaeth
Mae gennych hawliau o dan y gyfraith diogelu data:
- Gallwch ofyn am gopi o'r data personol y mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.
- Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhywddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.
- Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol a gasglwn amdanoch chi gael ei ddileu, serch hynny, mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a all roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
- Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i gyfyngu prosesu eich data personol neu i wrthwynebu prosesu eich data personol.
- Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu sefydliad arall, mewn amgylchiadau penodol.
Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych am gael mwy o fanylion am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC.
Os oes gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r BBC wedi trin eich data personol, gallwch godi eich pryderon gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).